Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r adnodd hwn yn cynnig ffordd hwyliog i chi ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg, gan gynnwys cwisiau rhyngweithiol, clipiau fideo, ac unedau hunan-astudio. Mae modd dewis Cymraeg ar gyfer adran Sgìl eich Gwobr Dug Caeredin.
Coleg Cymraeg - Pecyn Cefnogi Tiwtoriaid Addysg Bellach
Gwefan
Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu dwyieithog a chynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a’r set ddata LA26.
Coleg Cymraeg - Addysgeg Dysgu ac Addysgu Dwyieithog yn y Cyfnod Normal Newydd
Gwefan
Dyma gyfres o adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol a ddatblygwyd i gefnogi tiwtoriaid i fewnosod y Gymraeg ac addysgu'n ddwyieithog mewn amgylchedd dysgu ar-lein