Ôl 16
Gwefannau, Apiau ac eLyfrau
Planet Science
Mae Planet Science yn wefan sy’n ysbryoldi plant i gefnogi ei astudiaeth o wyddoniaeth yn yr ysgol ac ym mhellach. Mae’r adnodd yma wedi ei greu i gefnogi dosbarthiadau ysgol, cwricwlwm, gwerslyfrau ac athrawon.
Ieithoedd Modern Tramor: Canllaw Uwch Gyfrannol ac Uwch (Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg)
Canllawiau adolygu a pharatoi ar gyfer dysgwyr ôl-16 sy’n gwneud eu harholiadau Uwch Gyfrannol ac Uwch Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg. Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi sgiliau a strategaethau penodol ar gyfer yr arholiadau, technegau adolygu a pharatoi, yn ogystal â dysgu annibynol.
Y Fferm
Croeso i Y Fferm - fferm ryngweithiol ac adnodd cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr amaeth sydd yn canolbwyntio'n benodol ar wella dealltwriaeth y dysgwyr o gysyniadau busnes allweddol yng nghyd-destun rhedeg a rheoli fferm.Mae rheolaeth busnes yn uned allweddol sydd yn cyd-redeg ar draws y lefelau dysgu, a bydd yr adnodd yn paratoi'r dysgwyr i allu cyflawni cwblhau trawstoriad o sgiliau gweinyddu busnes allweddol.
Economeg creu diagramau
Nod y prosiect hwn yw addysgu cysyniadau allweddol Economeg TAG UG/U i ddysgwyr trwy gyfrwng creu diagramau. Mae'n adnodd ar-lein a fydd yn datblygu gallu myfyrwyr i greu diagramau i gwrdd â gofynion manyleb CBAC Safon Uwch.Mae'n bosib i ddysgwyr allu defnyddio'r adnodd yn annibynnol, ar gyfer pwrpas adolygu neu fel dosbarth cyfan.
Arddulliau theatr
Nod yr adnodd fydd rhoi esboniad clir i ddysgwyr am arddulliau Theatr amrywiol, sef Theatr Naturiolaidd, Theatr Fynegiannol a Theatr Symbolaidd. Bydd y dysgwyr yn medru cyfeirio at yr adnodd wrth drafod posibiliadau llwyfannu a dylunio o fewn y gwersi TGAU, UG ac Uwch.
Arbrofion ar ffilm
Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar yr ymarferion ymarferol gorfodol a chraidd a ymddengys ym manylebau newydd Safon Uwch CBAC, yn helpu dysgwyr i gryfhau eu sgiliau ymarferol a chreu eu ‘llyfrau labordy’ fel rhan o’r cyrsiau newydd. Bydd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer adolygu a pharatoi ar gyfer ateb cwestiynau ar waith ymarferol yn y papurau arholiad ysgrifenedig. Mae wedi ei greu i’w ddefnyddio ar gyfer dysgu annibynnol yn ogystal â dysgu yn y dosbarth er mwyn helpu athrawon i gefnogi a datblygu sgiliau ymarferol dysgwyr.
Pecyn dylunio theatr
Mae manylebau CBAC Drama a Theatr Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn canolbwyntio ar sgiliau technegol a dylunio sydd eu hangen ar gyfer llwyfannu drama. Pwrpas yr adnodd hwn yw datblygu gwybodaeth y dysgwyr o'r elfennau dylunio sy'n gysylltiedig â'r theatr.