top of page

Cymraeg Ail-iaith (Llyfrau yn unig)

 

Mae cyfres Fflic a Fflac yn set o adnoddau sy’n cynorthwyo datblygiad yr iaith Gymraeg i blant yn ystod y Cyfnod Sylfaen. Er eu bod wedi'u bwriadu'n bennaf i ddefnyddio ar gyfer addysgu Cymraeg fel ail-iaith, gallant hefyd gael eu defnyddio ar gyfer cefnogi a gwella iaith siaradwyr Cymraeg brodorol. Mae'r gyfres yn cynnwys pedwar pecyn sy’n amrywio mewn anhawster, pedair set o lyfrau darllen ychwanegol, CD-Rom gerddorol a phâr o bypedau.

 

Dyma'r trydydd pecyn lliwgar a deniadol yng nghyfres darllen Fflic a Fflac sy'n cynnwys ugain o lyfrau difyr. Bwriad y llyfrau yw annog plant yn y Cyfnod Sylfaen i ddarllen Cymraeg yn annibynnol ac felly seliwyd y llyfrau ar gynnwys DVD Pecyn 3 Fflic a Fflac fel bod y plant eisoes yn gyfarwydd â'r eirfa. Dyluniwyd y llyfrau yn arbennig ar gyfer hwyluso'r darllen i'r plant gyda lluniau lliwgar a brawddegau syml, byrion.

Fflic a Fflac - Cynllun Darllen 3

£50.00 Regular Price
£32.50Sale Price
    bottom of page