top of page

Cymraeg Ail-iaith

 

Mae cyfres Fflic a Fflac yn set o adnoddau sy’n cynorthwyo datblygiad yr iaith Gymraeg i blant yn ystod y Cyfnod Sylfaen. Er eu bod wedi'u bwriadu'n bennaf i ddefnyddio ar gyfer addysgu Cymraeg fel ail-iaith, gallant hefyd gael eu defnyddio ar gyfer cefnogi a gwella iaith siaradwyr Cymraeg brodorol. Mae'r gyfres yn cynnwys pedwar pecyn sy’n amrywio mewn anhawster, pedair set o lyfrau darllen ychwanegol, CD-Rom gerddorol a phâr o bypedau.

 

Dyma'r pecyn cyntaf yng nghyfres Fflic a Fflac sy’n cyflwyno’r plant i’r iaith Cymraeg. Mae'r llyfrau lliwgar a ddeniadol yma yn annog plant sydd yng nghyfnod sylfaen i ddarllen Cymraeg yn annibynnol. Mae'r pecyn, sy'n cynnwys 3 DVD, 18 o lyfrau lliwgar A4 a CD-ROM ryngweithiol, wedi'i rannu i mewn i chwe uned, gyda’r nod i ddod a disgyblion yn gyfarwydd gyda phatrymau iaith, strwythur a geirfa’r iaith Gymraeg.

 

Mae'r DVDs yn dilyn anturiaethau dau byped sef Fflic Fflac a chyflwynydd o’r enw Elin. Mae'r fideos yn cyflwyno patrymau iaith trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys gwaith stiwdio, caneuon, a chlipiau fideo cynhyrchwyd ar leoliad mewn ysgolion ac o amgylch Cymru. Mae pob fideo tua 5 munud o hyd sy'n golygu gallant gael eu hymgorffori yn hawdd i mewn i wersi.

 

Mae'r llyfrau yma yn addas ar gyfer gwaith grŵp neu waith unigol ac maent yn atgyfnerthu'r iaith a ddefnyddiwyd yn y DVD. Ar gefn pob llyfr mae yna restr o eirfa i ddefnyddio wrth gyflwyno, darllen a thrafod y storiâu.

Fflic a Fflac - Pecyn 1

£90.00Price
    bottom of page