Mae’r ‘Pod-antur Cymraeg’ yn gyfres o becynnau Cymraeg cynhwysfawr sydd wedi’u hanelu at ddisgyblion ac athrawon Cyfnod Allweddol 2. Mae’r pecyn yn cynnwys dros 7 awr o fideo, llyfrau, taflenni, cardiau trafod a gêm ryngweithiol, sy’n adeiladu’n naturiol ar batrymau iaith y Cyfnod Sylfaen ac yn cyflwyno sgiliau iaith newydd a ddefnyddiol. Mae gan bob pecyn dau gymeriad sy’n mynd a'r iaith Gymraeg efo nhw ar anturiaethau cyffrous i sefyllfaoedd go iawn.
Dyma’r pecyn cyntaf yn gyfres ‘Y Pod-antur Cymraeg’ sy’n adeiladu ar batrymau iaith a ddysgwyd yn ystod y Cyfnod Sylfaenol. Mae’r adnodd yma yn dysgu sgiliau newydd yn yr iaith Gymraeg i blant Cyfnod Allweddol 2. Mae disgyblion yn dysgu trwy ddilyn antur dau gymeriad cyfeillgar, sef Crad a Ffion, wrth iddynt gael i gludo o le i le gan ‘Y Pod antur’. Wrth ddefnyddio geirfa newydd, mi fyddent yn dysgu am rai o hanesion a chwedlau Cymru gan gynnwys Culhwch ac Olwen, y môr-leidr, Barti Ddu, ac America Madog.
Maent yn ymweld â Chastell Henllys i edrych am grib, maen nhw’n mynd i farchnad Caerfyrddin i brynu bwyd ac maen nhw hefyd yn mynd i nofio yn yr LC2 yn Abertawe! Yn ystod eu hanturiaethau cyffroes, mae Sgrîn yno i’w helpu a’u harwain. Ceir cyflwyniad i wledydd eraill ynghyd â’u thraddodiadau, gan gynnwys Shabbat a’r Arctig.
top of page
£149.00Price
bottom of page