top of page

Cymraeg Ail-iaith (Llyfrau yn unig)

 

Mae cyfres Fflic a Fflac yn set o adnoddau sy’n cynorthwyo datblygiad yr iaith Gymraeg yn ystod y Cyfnod Sylfaen. Er eu bod wedi'u bwriadu'n bennaf i ddefnyddio ar gyfer addysgu Cymraeg fel ail-iaith, gallant hefyd gael eu defnyddio ar gyfer cefnogi a gwella siaradwyr Cymraeg brodorol. Mae'r gyfres yn cynnwys pedwar pecyn sy’n amrywio mewn anhawster, pedair set o lyfrau darllen ychwanegol, CD-Rom gerddorol a phâr o bypedau.

 

Dyma'r pedwerydd pecyn yng Nghyfres Fflic a Fflac sy’n cyflwyno plant i’r iaith Gymraeg. Mae'r llyfrau lliwgar a ddeniadol yma yn annog plant sydd yn y Cyfnod Sylfaen i ddarllen Cymraeg yn annibynnol.

 

Mae'r llyfrau wedi eu seilio ar eirfa a ddefnyddiwyd yn ystod y DVD o becyn 4 i sicrhau bod y plant yn gyfarwydd â'r eirfa. Dyluniwyd yr adnodd yn arbennig ar gyfer hwyluso darllen i blant gyda lluniau lliwgar a brawddegau syml byr.

Fflic a Fflac - Cynllun Darllen 4

£50.00 Regular Price
£32.50Sale Price
    bottom of page