top of page

Cyfnod Allweddol 2

Gwefannau, Apiau ac eLyfrau

SABA - Heliwr y Geiriau

SABA - Heliwr y Geiriau

Ap a grëwyd er mwyn dysgu dysgwyr Cymraeg iaith gyntaf Cyfnod Allweddol 2 sut i sillafu a chael hwyl ar yr un pryd.

Planet Science

Planet Science

Mae Planet Science yn wefan sy’n ysbryoldi plant i gefnogi ei astudiaeth o wyddoniaeth yn yr ysgol ac ym mhellach. Mae’r adnodd yma wedi ei greu i gefnogi dosbarthiadau ysgol, cwricwlwm, gwerslyfrau ac athrawon.

Daearyddiaeth yn y newyddion

Daearyddiaeth yn y newyddion

Dyma gylchgrawn digidol dwyieithog ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3 sy’n trafod materion cyfoes o wahanol fannau o’r byd. Mae pob rhifyn yn cynnwys gweithgareddau i’r dosbarth ac adnoddau addysgol eraill sy’n berthnasol i’r rhifyn.

Botio

Botio

Ap codio sy’n addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg iaith gyntaf Cyfnod Allweddol 2.

Gwyddoniaeth drwy ddata

Gwyddoniaeth drwy ddata

Adnodd digidol sy'n cynnwys amryw o dasgau ar gyfer disgyblion cynradd 3-11 oed. Mae'n cynorthwyo sgiliau trin data ac ymresymu rhifyddol, Cewch dasgau i wneud ar y pynciau canlynol: Robotiaid, Bwyd a Diod, Cyfryngau Cymdeithasol a Thrychinebau Naturiol.

Y Pod-antur

Y Pod-antur

Mae’r ‘Pod-antur Cymraeg’ yn gyfres o becynnau Cymraeg cynhwysfawr sydd wedi’u hanelu at ddisgyblion ac athrawon Cyfnod Allweddol 2. Mae’r pecyn yn cynnwys dros 7 awr o fideo, llyfrau, taflenni, cardiau trafod a gêm ryngweithiol, sy’n adeiladu’n naturiol ar batrymau iaith y Cyfnod Sylfaen.

Dewch i ddawnsio gwerin

Dewch i ddawnsio gwerin

Nod yr adnodd hwn yw hwyluso dysgwyr wrth ymarfer dawnsio gwerin a datblygu eu sgiliau dawnsio. Ym mhob uned dawns ceir cyfres o 6 cherdyn digidol (gellir eu hargraffu os oes angen) ynghyd â chlip fideo sy'n dangos sut i ymarfer y ddawns benodol.

bottom of page