top of page

Mae’r ‘Pod-antur Cymraeg’ yn gyfres o becynnau Cymraeg cynhwysfawr sydd wedi’u hanelu at ddisgyblion ac athrawon Cyfnod Allweddol 2. Mae’r pecyn yn cynnwys dros 7 awr o fideo, llyfrau, taflenni, cardiau trafod a gêm ryngweithiol, sy’n adeiladu’n naturiol ar batrymau iaith y Cyfnod Sylfaen ac yn cyflwyno sgiliau iaith newydd a ddefnyddiol. Mae gan bob pecyn dau gymeriad sy’n mynd ar iaith Gymraeg gyda nhw ar anturiaethau cyffrous i sefyllfaoedd go iawn.

 

Gwelir dau gymeriad newydd ym mhecyn dau, sef Dyfs o’r Drenewydd ac Izzy o Aberystwyth.

 

Wrth ail-ymweld â phatrymau iaith o Becyn 1, ynghyd â pheth eirfa newydd, mi fydd Dyfs ac Izzy yn mynd ar sawl antur. Gyda help Sgrîn, mae Dyfs ac Izzy yn teithio i’r Drenewydd, Aberystwyth, Hwyl y Gaeaf yn Abertawe a hefyd i’r Tŷ’r Tuduriaid yn Ninbych-y-pysgod.

 

Mi fydden nhw’n dysgu am hanes a chwedlau gan gynnwys 'Y Bachgen a'r Blaidd', Baboushka a Twm Siôn Cati.

 

Yn ogystal â hyn, mi fydden nhw’n dysgu am draddodiadau gwledydd eraill gan gynnwys Y Nadolig a Karabo.

Y Pod-antur Cymraeg - Pecyn 2

£149.00Price
    bottom of page