top of page

Mae’r ‘Pod-antur Cymraeg’ yn gyfres o becynnau Cymraeg cynhwysfawr sydd wedi’u hanelu at ddisgyblion ac athrawon Cyfnod Allweddol 2. Mae’r pecyn yma’n cynnwys yr adnoddau argraffedig yn unig, sef y llyfrau i gyd-fynd gyda phob pennod o’r DVD (ddim yn cael ei gynnwys), 50 o gardiau dadl, geiriadur a llawlyfr i athrawon.

 

Dyma’r pecyn cyntaf yn gyfres ‘Y Pod-antur Cymraeg’ sy’n adeiladu ar batrymau iaith a ddysgwyd yn ystod y Cyfnod Sylfaenol. Mae’r adnodd yma yn dysgu sgiliau newydd yn yr iaith Gymraeg i blant Cyfnod Allweddol 2. Mae disgyblion yn dysgu trwy ddilyn antur dau gymeriad cyfeillgar, sef Crad a Ffion, wrth iddynt gael i gludo o le i le gan ‘Y Pod antur’. Wrth ddefnyddio geirfa newydd, mi fyddent yn dysgu am rai o hanesion a chwedlau Cymru gan gynnwys Culhwch ac Olwen, y môr-leidr, Barti Ddu, ac America Madog.

 

Maent yn ymweld â Chastell Henllys i edrych am grib, maen nhw’n mynd i farchnad Caerfyrddin i brynu bwyd ac maen nhw hefyd yn mynd i nofio yn yr LC2 yn Abertawe! Yn ystod eu hanturiaethau cyffroes, mae Sgrîn yno i’w helpu a’u harwain. Ceir cyflwyniad i wledydd eraill ynghyd â’u thraddodiadau, gan gynnwys Shabbat a’r Arctig.

Y Pod-antur Cymraeg - Pecyn 1 (papur yn unig)

£119.00Price
    bottom of page