top of page

Mae’r ‘Pod-antur Cymraeg’ yn gyfres o becynnau Cymraeg cynhwysfawr sydd wedi’u hanelu at ddisgyblion ac athrawon Cyfnod Allweddol 2. Mae’r pecyn yma’n cynnwys yr adnoddau argraffedig yn unig, sef y llyfrau i gyd-fynd gyda phob pennod o’r DVD (ddim yn cael ei gynnwys), 50 o gardiau dadl, geiriadur a llawlyfr i athrawon.

 

Dyma’r ail becyn yng nghyfres ‘Y Pod-antur Cymraeg’ sy’n adeiladu ar batrymau iaith a ddysgwyd yn ystod y Cyfnod Sylfaenol a phecyn 1 o’r Pod-antur Cymraeg. Mae’r adnodd yma yn dysgu sgiliau newydd yn yr iaith Gymraeg i blant Cyfnod Allweddol 2.

 

Mae disgyblion yn dysgu trwy ddilyn antur dau gymeriad cyfeillgar, sef Dyfs ac Izzy, wrth iddynt gael i gludo o le i le gan ‘Y Pod antur’. Gyda help Sgrîn, bydd Dyfs ac Izzy yn teithio i’r Drenewydd, Aberystwyth, Gŵyl y Gaeaf yn Abertawe a'r Tŷ’r Marsiandwr Tuduraidd yn Ninbych-y-pysgod.

 

Yn ogystal â dysgu geirfa newydd, byddant yn dysgu am hanes a chwedlau Cymraeg gan gynnwys 'Y Bachgen a'r Blaidd', Baboushka a Twm Siôn Cati, a thraddodiadau mewn gwledydd eraill fel Nadolig a Karabo .

Y Pod-antur Cymraeg - Pecyn 2 (papur yn unig)

£119.00Price
    bottom of page