top of page

Mae’r ‘Pod-antur Cymraeg’ yn gyfres o becynnau Cymraeg cynhwysfawr sydd wedi’u hanelu at ddisgyblion ac athrawon Cyfnod Allweddol 2. Mae’r pecyn yma’n cynnwys yr adnoddau argraffedig yn unig am ‘Y Pod-antur Cymraeg’ Pac 3, sef y llyfrau i gyd-fynd gyda phob pennod o’r DVD (ddim yn cael i gynnwys), 50 o gardiau dadl, geiriadur a llawlyfr i athrawon.

Mae tri chymeriad newydd yn ymuno â Sgrîn yn y trydydd pecyn o ‘Y Pod-antur Cymraeg’ – Tom o Lanarthne, Beca o Lanberis a Bob; y planhigyn!

 

Nid yn unig yw Tom a Beca yn teithio o gwmpas Cymru, ond hefyd rhaid iddynt edrych ar ôl Bob. Maent hefyd yn adeiladu’n gyson ar yr iaith sy’n bodoli ym mhecyn 1 a 2.

 

Yn ystod y pecyn, mae Tom yn camu’n ôl mewn amser i Ysgol Fictoraidd yng Nghroesoswallt, tra bod Beca yn mynd i noson tân gwyllt.

 

Maent hefyd yn ymweld â Brecon Carreg i ddysgu am ddŵr, safle ail-gylchu i ddysgu am gompost ac yn mynd i Dr. Barnados i brynu pot newydd i Bob.

 

Ceir cyfle i ddysgu am y planedau hefyd!

Y Pod-antur Cymraeg - Pecyn 3 (papur yn unig)

£119.00Price
    bottom of page